Michael Manley
|dateformat = dmy |image = Michael Manley.jpg |caption = Michael Manley }}Gwleidydd o Jamaica oedd Michael Norman Manley (10 Rhagfyr 1924 – 6 Mawrth 1997) a wasanaethodd yn Brif Weinidog Jamaica o 1972 i 1980 ac o 1989 i 1992. Gwasanaethodd yn Seneddwr o 1962 i 1967, yn Aelod Seneddol dros Ganol Kingston o 1967 hyd at 1992, ac yn Arweinydd yr Wrthblaid o 1969 i 1972 ac o 1980 i 1989.
Ganed ef yn St. Andrew, Gwladfa Jamaica, yn fab i'r gerflunwraig Edna Swithenbank Manley a'r gwleidydd Norman Manley, a sefydlodd Blaid Genedlaethol y Bobl (PNP) ym 1938 a gwasanaethodd yn Brif Weinidog y wladfa o 1955 i 1962. Disgynnai o linach gymysg ar y ddwy ochr, o dras Affricanaidd, Seisnig, a Gwyddelig. Gwasanaethodd Michael Manley yn Awyrlu Brenhinol Canada yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Wedi'r rhyfel, aeth i Loegr i astudio yn Ysgol Economeg Llundain (LSE) dan arweiniad yr Athro Harold Laski, a dylanwadwyd arno'n gryf gan sosialaeth Ffabiaidd. Gweithiodd yn newyddiadurwr ar liwt ei hun yn Llundain cyn dychwelyd i Jamaica ym 1951 ac ymuno â'r papur newydd wythnosol adain-chwith ''Public Opinion''. Bu'n weithgar yn y mudiad llafur, gan gynnwys swydd Arolygydd Siwgr i Undeb Cenedlaethol y Gweithwyr o 1953 i 1954, a daeth i'r amlwg fel cyflafareddwr. Gwasanaethodd yn Arolygydd yr Ynys ac is-lywydd cyntaf Undeb Cenedlaethol y Gweithwyr o 1955 i 1972.
Penodwyd Manley i Senedd Jamaica ym 1962 a fe'i etholwyd i Dŷ'r Cynrychiolwyr ym 1967. Olynodd ei dad yn arweinydd y PNP ym 1969. Yn sgil buddugoliaeth y PNP yn yr etholiad cyffredinol ym 1972, penodwyd Manley i olynu Hugh Shearer yn Brif Weinidog Jamaica. Aeth ei lywodraeth ati i gyflwyno polisïau i ailddosrannu cyfoeth. Manley oedd un o sefydlwyr Cymuned a Marchnad Gyffredin y Caribî (Caricom) ym 1973, a daeth Manley i sylw rhyngwladol am bleidio achosion y Trydydd Byd. Magodd gysylltiadau clos â Chiwba, y bloc Dwyreiniol, a gwledydd sosialaidd a chomiwnyddol Asia, ac o ganlyniad cafodd cymorth ariannol oddi ar Unol Daleithiau America i Jamaica ei gwtogi. Arweinydd poblogaidd oedd Manley, a enillai'r llysenw "Joshua" ar ôl y proffwyd yn y Beibl. Enillodd y PNP fwy o bleidleisiau a seddi yn etholiad cyffredinol 1976. Fodd bynnag, gwaethygodd yr economi yn ystod ei ail dymor, yn ogystal â therfysgoedd a thrais rhwng yr adain chwith a'r adain dde. Collodd yr etholiad ym 1980 i Blaid Lafur Jamaica, ac ildiodd yr awenau i'r prif weinidog newydd, Edward Seaga.
Treuliodd Manley y 1980au yn Arweinydd yr Wrthblaid, a dechreuodd mabwysiadu safbwyntiau mwy cymedrol, gan gynnwys gwella cysylltiadau gyda'r Unol Daleithiau. Cafodd etholiad cyffredinol 1983 ei foicotio gan y PNP, gan sicrhau tymor arall i Seaga, ond ym 1989 bu'r PNP yn fuddugol a dychwelodd Manley i'r brifweinidogaeth unwaith eto. Cyflwynodd bolisïau i ryddhau'r farchnad, gan gynnwys preifateiddio nifer o gwmnïau'r wladwriaeth, er iddo barhau i alw ei hun yn sosialydd.
Ymddeolodd Manley ym 1992 oherwydd afiechyd, a dioddefai o ganser y prostad yn ei flynyddoedd olaf. Priododd bum gwaith a chafodd bum plentyn: gyda Jacqueline Ramellard o 1946 i 1951 (cawsant un ferch), gyda Thelma Verity o 1955 i 1960 (un mab), gyda Barbara Lewars o 1968 hyd at ei marwolaeth ym 1968 (un ferch), gyda Beverley Anderson o 1972 i 1990 (un mab ac un ferch), a chyda Glynne Ewart o 1992 hyd at ei farwolaeth (dim plant). Bu farw Michael Manley yn Kingston yn 72 oed, pum mlynedd wedi iddo ymddeol. Darparwyd gan Wikipedia