Ahmed Ali
Cemegydd o Gymru yw'r Dr Ahmed Ali, sydd wedi ennill gwobrau am ei waith ymchwil. Mae'n arbenigo yng nghemeg planhigion sy'n gynhenid i Gorn Affrica ac wedi ennill gwobrau am ei ddarganfyddiadau yn seiliedig ar y defnydd o'r resinau myrr a thus o Somalia, y naill yn erbyn canser a'r llall fel asiant gwrth-llidiol.Cafodd Ali ei eni a'i fagu yng Nghasnewydd ac mae o dras Somali. Mae'n gweithio yn Ysgol y Biowyddorau ym Mhrifysgol Caerdydd ac wedi sefydlu cwmni biotech yng Nghaerdydd sy'n arloesi yn y defnydd o lysiau ym maes meddygaeth. Darparwyd gan Wikipedia